Brên.Calon.Fi

Theatr Cymru

Monolog doniol a dirdynnol amchwant a chariad lesbiaidd gan un o ddramodwyr gorau Cymru.

A hilarious and heart-wrenching monologue about lesbian love and desire from one of Wales’ best playwrights.

On Tour June 2025 / Ar daith Mehefin 2025 - https://theatr.cymru/sioeau/bren-calon-fi-ar-daith/

photos / lluniau mefus photography

 

"Dyma'r ddrama orau dwi wedi gweld ers tro byd."
BBC Radio Cymru

Dyma Fi: hogan pentra' efo gwallt spikes a BMX, yn ffansio genod ond cogio bod yn strêt; yn disgyn mewn cariad efo dynas ar cae rygbi ond cheith hi’m deud wrth neb bod hi’n disgyn mewn i'w gwely; mynd i Llundan i fod yn lesbian mewn byd lesbian yn caru bob lesbian eiliad... nes bod hi ddim.  

Wrth i Fi fynd â ni ar daith o’i bywyd carwriaethol - y crushes cyfrinachol, y caru lletchwith a’r tor-calon blêr - mae'n dod i ddeall cymhlethdodau byw'n driw i'w hun wrth dyfu fyny fel tomboy yn y nawdegau.

Yn dilyn ymateb gwefreiddiol i’r perfformiadau cychwynnol yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf 2024, bydd Brên. Calon. Fi gan Bethan Marlow yn mynd ar daith fel rhan o ddathliadau mis Pride ym mis Mehefin. Y cyntaf o’i fath, dyma fonolog doniol a dirdynnol am chwant a chariad lesbiaidd, wedi’i gyfarwyddo gan Rhiannon Mair ac yn serennu Lowri Morgan.

Datblygwyd yn wreiddiol gyda chefnogaeth gan Eisteddfod Genedlaethol Cymru a pherfformiwyd yn wreiddiol ym Mhontypridd 2024.